Cyflwyniad

1.             Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Mae’r tri awdurdod parciau cenedlaethol a’r tri awdurdod tân ac achub yn aelodau cysylltiol.

2.             Mae’n ceisio darparu cynrychiolaeth i awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi sy’n cynnal ymrwymiad i ddemocratiaeth leol ac atebolrwydd. Wrth wneud hynny, rhaid iddo fodloni blaenoriaethau ein haelodau a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus lleol ar flaen y drafodaeth ar ddatblygu datganoli yng Nghymru a’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

3.             Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle i ymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, Iaith Gymraeg a Chyfathrebu: Cefnogi a Hyrwyddo’r Gymraeg: Ymchwiliad i’r cyd-destun deddfwriaethol, polisi ac ehangach.   Mae craffu ôl-ddeddfwriaeth ar Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011– i asesu llwyddiant a chyfyngiadau’r ddeddfwriaeth a’r effaith ac effeithiolrwydd Safonau’r Gymraeg i wella a chynyddu mynediad i wasanaethau Cymraeg, yn cael ei groesawu.

 

Cefndir

4.             Tra bod CLlLC yn cefnogi awdurdodau i weithredu Safonau’r Gymraeg, nid yw’n casglu gwybodaeth ar weithredu’r Safonau gan awdurdodau unigol. Mae’n ofynnol i’r cyrff cyhoeddus hynny sy’n destun Safonau’r Gymraeg i lunio a chyhoeddi Adroddiad Blynyddol, er nad yw’r fformat yn benodol ac felly byddai angen edrych ar bob un yn fanwl i benderfynu sut mae’r sefydliadau wedi ymateb i’r gofynion a osodwyd arnynt o dan Safonau’r Gymraeg.

 

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

5.             Roedd CLlLC a’i awdurdodau lleol sy’n aelodau yn cefnogi cyflwyno’r Mesur a’r egwyddorion oedd yn sail i’w amcanion ehangach.        Yn yr un modd, roedd awdurdodau lleol yn cefnogi Safonau’r Gymraeg, a oedd yn deillio o’r Mesur ers iddynt ddod i rym ond roedd yna rywfaint o bryder ar y dechrau.

 

6.             Roedd yna rywfaint o amheuaeth pa un a fyddai’r Safonau yn cael yr effaith a fwriadwyd neu a ddymunwyd. Roedd Awdurdodau yn cefnogi egwyddorion:

 

·         Gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu derbyn gan y sefydliad yn Gymraeg;

·         Cynyddu’r defnydd a wneir gan bobl o wasanaethau Cymraeg;

·         Ei gwneud yn amlwg i sefydliadau beth maent angen ei wneud mewn perthynas â’r Gymraeg;

·         Sicrhau bod yna lefel briodol o gysondeb o safbwynt y dyletswyddau a osodir ar gyrff yn yr un sectorau.

 

7.             Roedd yna hefyd bryderon am gostau a gwerth am arian y buddsoddiad oedd yn ofynnol i gwrdd â’r Safonau. Am y rhesymau hyn roedd awdurdodau yn teimlo ar y dechrau bod y Cynlluniau Iaith Gymraeg presennol o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ddull mwy effeithiol a chymesur i gyflawni’r amcanion a fwriadwyd.

 

8.             Trwy gydol y cyfnod hwn roedd yna gonsensws cryf o fewn llywodraeth leol ar bwysigrwydd cynnal ac adeiladu ar yr ewyllys da tuag at y Gymraeg ar draws Cymru; gan gydnabod y gwahaniaethau ieithyddol, diwylliannol, economaidd-gymdeithasol ac ariannol rhwng awdurdodau lleol a’r angen i fod yn rhesymol a chymesur wrth ddatblygu blaenoriaethau a rennir.

 

9.             Mae Safonau’r Gymraeg yn amrywiol a manwl iawn ac ni fu bob amser yn hawdd eu gweithredu ond mae llywodraeth leol wedi gweithio ar y cyd gyda Chomisiynydd y Gymraeg a'i swyddfa i ddatrys problemau a dod o hyd i atebion. Mae CLlLC ac awdurdodau unigol wedi cymryd rhan mewn perthynas adeiladol iawn gyda Chomisiynydd y Gymraeg ers i’r Safonau ddod i rym.

 

10.        Yn fwy cyffredinol, mae llywodraeth leol a CLlLC wedi cefnogi Llywodraethau olynol Cymru, gyda'u hagwedd strategol at y Gymraeg.

 

11.        Cafodd Iaith fyw:Iaith byw – Strategaeth y Gymraeg 2012 i 2017 ei derbyn yn gadarnhaol iawn gan llywodraeth leol yn ogystal â tharged Cymraeg 2050 o greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cefnogaeth barhaus a roddwyd i’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd drwy bartneriaeth ariannu arloesol CLlLC yn un enghraifft o’r ymrwymiad parhaus hwn.

 

12.        Mae awdurdodau lleol hefyd yn cefnogi Strategaeth Addysg cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru ac wedi ymrwymo i dwf parhaus addysg Gymraeg a chyfrwng Cymraeg. Mae hyn wedi bod yn amlwg yn fwy diweddar ar ôl cwblhau’r rownd ddiwethaf o Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg gan y 22 awdurdod a'r bartneriaeth barhaus rhwng llywodraeth leol a chanolog drwy’r Rhaglen Ysgolion ac Addysg y 21ain Ganrif a buddsoddi cyfalaf arall mewn ysgolion. Mae awdurdodau lleol wedi bod yn llunio Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ers 2011 ac maent yn darparu fframwaith defnyddiol i gynghorau gynllunio ar gyfer darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

 

13.        Mae’r Gymdeithas yn credu mewn cynnal y consensws presennol ar yr iaith Gymraeg, drwy ei gadw allan o wleidyddiaeth pleidiau a chanolbwyntio’n gadarn ar fesurau ymarferol i gynyddu ei ddefnydd, yn hytrach na chreu fframwaith cyfreithloni sy’n canolbwyntio ar gydymffurfio yn y crynodeb. Mae CLlLC yn cefnogi pob ymdrech i gynyddu ansawdd darpariaeth a’r cyfleoedd i unigolion siarad a chael mynediad i’r Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.

Casgliad

 

1.             Mae Llywodraeth Leol a CLlLC yn gwbl gefnogol i amcanion ac ethos Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, er gwaethaf yr heriau a gyflwynir gan Safonau'r Gymraeg i ddarparu gwasanaeth a'r cyd-destunariannol anodd.    Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at yr ymchwiliad hwn ac yn edrych ymlaen at weld canlyniadau’r gwaith.